Gwneud Enwebiad
Ynglŷn ag enwebu
Rydyn ni wrth ein bodd eich bod yn ystyried enwebu grŵp ar gyfer Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol! Mae’n ffordd wych i wirfoddolwyr lleol arbennig gael y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu.
Os ydych chi eisiau gwneud eich enwebiad yn Gymraeg, bydd angen i chi ddilyn y broses isod:
Cam 1: | Defnyddiwch ein rhestr wirio meini prawf cymhwysedd i wneud yn siŵr bod y grŵp yn gymwys am wobr a’ch bod yn gymwys i enwebu. |
Cam 2: | Lawrlwythwch y ffurflen enwebu Gymraeg. |
Cam 3: | Gwnewch yn siŵr bod gennych ddau lythyr o gefnogaeth ar wahân gan ddau berson ychwanegol |
Cam 4: | E-bostiwch eich ffurflen enwebu orffenedig at dîm KAVS. |
Sylwer, os gallwch gwblhau’r broses yn Saesneg, gallwch ei wneud ar-lein – gweler y canllawiau llawn ar sut i enwebu yn Saesneg.