BETA This is a new website - your feedback will help us to improve it.

Enwebu

Ydych chi wedi adolygu’r meini prawf cymhwysedd? Iawn, yna gadewch i ni fwrw ymlaen gyda’r enwebiad.

I wneud enwebiad yn Gymraeg, bydd angen i chi gwblhau’r ffurflen enwebu yn Word neu ddogfen debyg a’i hanfon atom. Bydd angen i chi gyflwyno dau lythyr o gefnogaeth hefyd.

Llythyrau o gefnogaeth

Bydd rhaid i chi gyflwyno dau lythyr o gefnogaeth wrth ddau berson ychwanegol sy’n adnabod y mudiad yn dda. Gan ei bod yn aml yn cymryd amser i gael gafael ar rhain, rydym yn argymell gofyn amdanyn nhw cyn gynted ag y gallwch.

Llythyrau o gefnogaeth

Rhaid i enwebwyr gyflwyno dau lythyr o gefnogaeth ar wahân wrth ddau berson ychwanegol sy’n adnabod y mudiad yn dda.

Ni ddylai llythyrau gael eu hysgrifennu gan wirfoddolwr, gweithiwr, ymddiriedolwr neu unrhyw un sy’n gysylltiedig â rhedeg y grŵp. Mae llythyrau wrth noddwyr, er enghraifft, cefnogwr neu gyllidwr, yn dderbyniol, cyn belled nad oes ganddyn nhw unrhyw gysylltiad â’r ffordd y caiff y grŵp ei reoli a’i weithredu.

Mae’r llythyrau yn chwarae rhan bwysig iawn yn y broses asesu. Rydyn ni’n chwilio am lythyrau sy’n dod â gwaith ac effaith y grŵp yn fyw, felly byddai llythyr wrth rywun sy’n adnabod gwaith y grŵp yn dda yn ddelfrydol.

Dylai ysgrifenwyr ddarparu manylion ffeithiol i gefnogi eu neges o gymeradwyaeth, gan fod hyn yn rhoi tystiolaeth bellach i aseswyr.

Dylai’r llythyrau hyn ddatgan y canlynol:

  1. Effaith y grŵp ar y gymuned leol
  2. Beth mae’r gwirfoddolwyr yn y grŵp yn ei wneud a pham eu bod nhw’n arbennig
  3. Perthynas y cefnogwr â’r grŵp, gan gynnwys y rheswm dros y gymeradwyaeth

Dim ond dau lythyr fydd yn cael eu hystyried.

Derbynnir enwebiadau ar gyfer gwobrau 2023 o’r 1af Ebrill tan 15fed Medi.

Gallwch lawrlwytho fersiwn Gymraeg o’r ffurflen enwebu isod. Yna gallwch gopïo a gludo y cwestiynau i fformat Word neu ddogfen debyg a’i e-bostio gyda’r llythyrau o gefnogaeth at dîm KAVS yn kingsaward@dcms.gov.uk

Lawrlwytho fersiwn Gymraeg o’r ffurflen enwebu

Sylwer, yn anffodus, nid oes gennym siaradwyr Cymraeg yn y tîm, ond os anfonwch chi
e-bost atom, byddwn yn gallu cysylltu â chi gyda chymorth cyfieithydd.

Yn gallu cwblhau’r ffurflen enwebu yn Saesneg?

Os ydych yn gallu cwblhau’r broses yn Saesneg, byddem yn eich annog i wneud hynny oherwydd gallwch fanteisio ar system enwebu ar-lein sy’n gallu gwirio a dilysu er mwyn  sicrhau nad ydych yn anghofio unrhyw beth. Gweler canllawiau llawn ynglŷn â sut i enwebu yn Saesneg