Gwneud Enwebiad
Cymhwysedd
Meini prawf cymhwysedd yr enwebydd
Ni ddylai’r enwebydd:
- Fod yn wirfoddolwr, gweithiwr neu ymddiriedolwr y grŵp, neu’n gysylltiedig â rhedeg y mudiad mewn unrhyw ffordd
Rhaid i’r enwebydd:
- fod yn aelod o’r cyhoedd sydd â gwybodaeth dda am waith y grŵp (fel buddiolwr neu gefnogwr hirdymor)
- gallu darparu dau lythyr o gefnogaeth ar wahân gan ddau berson ychwanegol sy’n adnabod y grŵp yn dda
Mae’n rhaid i ni sicrhau bod enwebwyr yn annibynnol. Ni fydd enwebiadau o gyfeiriadau e-bost sy’n gysylltiedig â’r grŵp ei hun yn cael eu hystyried.
Meini prawf cymhwysedd y grŵp
Bwriedir i wobrau KAVS fod ar gyfer grwpiau sy’n cael eu harwain gan wirfoddolwyr ac sy’n darparu budd i gymunedau lleol.
Rhaid i’r grŵp:
- gynnwys tri neu fwy o bobl
- wedi’i leoli yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw
- yn weithredol ers tair blynedd o leiaf
- dros hanner ei wirfoddolwyr yn gymwys i fyw yn y DU
- cael ei arwain gan wirfoddolwyr (nid gan staff sy’n cael eu talu)
- darparu budd lleol penodol ac uniongyrchol
Budd lleol penodol ac uniongyrchol
Rhaid i grwpiau ddarparu buddion uniongyrchol i gymuned drwy eu gwaith. Ni fydd grwpiau’n cael eu hystyried yn gymwys os mai eu hunig bwrpas yw cefnogi un neu fwy o grwpiau eraill sy’n darparu buddion uniongyrchol, er enghraifft
- codi arian
- darparu grantiau neu adnoddau eraill
Sylwer: Gellir ystyried grwpiau sy’n codi arian os yw eu gweithgareddau’n cael effaith fuddiol sylweddol ar y gymuned ehangach y tu hwnt i godi arian (er enghraifft, drwy gynnal digwyddiad mawr neu gynnig gwasanaeth y gellir ei ddangos).
Ni ddylai’r grŵp:
- fod wedi’i enwebu am wobr KAVS yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf
- fod wedi derbyn gwobr KAVS yn barod
- gweithredu’n unswydd er budd anifeiliaid (oni bai y gall ddangos bod ei waith yn darparu buddion sylweddol eraill i’r gymuned leol)
Nid bwriad gwobrau KAVS yw gwobrwyo mudiadau cenedlaethol. Ni fyddai grŵp cenedlaethol sydd â changhennau lleol ynddo’i hun yn addas. Serch hynny, gellir enwebu un o’i ganghennau.
Mudiadau cenedlaethol
Gellir enwebu grŵp os yw’n gangen o fudiad rhanbarthol neu genedlaethol mwy neu’n gysylltiedig ag ef. Serch hynny, bydd disgwyl iddo gychwyn a datblygu dull unigryw yn lleol ac yn gallu dangos lefel uchel o ymreolaeth a hunan-benderfyniad.
Mae grwpiau o fewn gwasanaethau cyhoeddus, neu sy’n eu cefnogi, yn gymwys os oes ganddyn nhw hunaniaeth ar wahân i’r sefydliad gwasanaethau cyhoeddus.
Grwpiau sy’n cefnogi gwasanaethau cyhoeddus
Mae grwpiau sy’n rhan o wasanaethau cyhoeddus, neu’n eu cefnogi, (fel ysbyty, heddlu neu ysgol) yn gymwys, ond bydd angen i chi allu dangos bod:
- gan y grŵp hunaniaeth ar wahân o’r sefydliad statudol a’i fod yn amlwg o dan arweiniad gwirfoddolwyr yn hytrach na dilyn cyfarwyddiadau staff sy’n cael eu talu o fewn y sefydliad yn unig
- yn grŵp o wirfoddolwyr hirdymor sydd wedi ennill ei blwyf gyda’i hunaniaeth unigryw ei hun a strwythur llywodraethu, yn hytrach na bod yn rhan o gynllun ehangach neu fenter wirfoddoli sy’n cael ei harwain gan ysgol
Mwy o wirfoddolwyr na staff sy’n cael eu talu
Dylai’r grŵp gael mwy o wirfoddolwyr na staff sy’n cael eu talu. Mewn amgylchiadau eithriadol, efallai y caiff grwpiau sydd â mwy o staff sy’n cael eu talu na gwirfoddolwyr eu hystyried os yw natur y gwaith yn gofyn am hynny. Bydd y wobr ar gyfer gwirfoddolwyr y grŵp yn unig.